Llwytho Firefox i Lawr

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar Windows 8.1 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Nid yw Firefox yn cael ei gynnal bellach ar macOS 10.14 ac is.

Llwythwch i lawr Firefox ESR ( Fersiwn Cymorth Estynedig ) er mwyn defnyddio Firefox.

Hysbysiad Preifatrwydd Firefox

Firefox o'i gymharu ag Opera

Mae gosodiadau preifatrwydd rhagosodedig Firefox yn gryfach na rhai Opera – ac mae gennym fwy o nodweddion i atal gwefannau rhag eich tracio, fel rhwystro bysbrintio.

Mae gan Firefox offer ychwanegol hefyd megis:

Mae Firefox yn cynnig ystod eang o ddewisiadau cyfaddasu, gan gynnwys y gallu i symud dewislenni a bariau offer i leoliadau gwahanol ar ffenestr y porwr. Mae rhyngwyneb Opera yn llai cyfaddasadwy.

Gan nad oes yn rhaid i ni gadw ein cyfranddalwyr yn hapus, gallwn ganolbwyntio ar eich gwneud chi'n hapus a rhoi eich preifatrwydd a'ch hwylustod chi'n gyntaf bob tro.

Mae'n hawdd newid

Mae newid i Firefox yn hawdd ac yn gyflym — mewnforiwch eich nodau tudalen, eich cyfrineiriau, eich hanes, a'ch dewisiadau Opera gydag un clic a byddwch yn barod i'w defnyddio ar unwaith Firefox. Dyma sut i ddefnyddio'r botwm Mewnforio i newid.